Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:

Y rhesymeg dros ddarparu esemptiad sectorol ar gyfer y categori morwyr ac arolygwyr a syrfewyr llongau yw sicrhau y gall morgludiant rhyngwladol a symudiad nwyddau hanfodol barhau yn ystod y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, roedd Deddf Llongau Masnach 1995 yn diffinio “seamen” yn fras iawn fel person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen mewn unrhyw swydd ar unrhyw long (ac eithrio meistri a pheilotiaid). Ar ôl i fordeithiau domestig ailddechrau yn y DU a’r Ardal Deithio Gyffredin, ceisiodd nifer o weithwyr llongau mordeithio o India ddefnyddio’r esemptiad hwn i hedfan i’r DU heb dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl cyrraedd gan fod y diffiniad o “seamen” yn cynnwys y rheini sy’n darparu gwasanaethau lletygarwch ar longau mordeithio. Nid dyma oedd bwriad yr esemptiad gwreiddiol.

 

Er 23 Ebrill 2021, mae India wedi bod ar y rhestr “goch” ar gyfer teithio yn sgil ymddangosiad a lledaeniad cyflym yr amrywiolyn Delta (B1.617.2). Newidiwyd y diwygiad technegol hwn i’r esemptiad sy’n cynnwys “Mordwywyr”, ac yn benodol, y categorïau esempt ar gyfer “morwyr a meistri” ac “arolygwyr a syrfewyr llongau” mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd o wledydd sydd ar y rhestr goch, er mwyn dileu gweithwyr llongau mordeithio. Byddai unigolion o’r fath, felly, yn cael eu gwahardd rhag dod i Gymru pe baent wedi bod mewn gwlad sydd ar y rhestr goch yn y 10 niwrnod blaenorol.